Neidio i'r cynnwys
Rhannwch eich Syniadau ar y Map
Defnyddiwch y map rhyngweithiol hwn i ddweud eich barn am wahanol leoedd ar hyd a lled Rhosllannerchrugog.

Boed hynny’n rhywbeth rydych chi’n falch ohono, rhywbeth sydd angen ei wella, neu’n syniad ar gyfer y dyfodol, mae arnom eisiau clywed gennych.

Sut i ychwanegu eich sylw:

Cliciwch y botwm gwyrdd 'Ychwanegu sylw' ar gornel ochr dde’r map. Byddwch wedyn yn gallu:
  • Gosod eich sylw ar leoliad penodol
  • Dangos beth rydych chi’n ei hoffi am y lle
  • Amlygu rhywbeth sydd angen ei wella
  • Rhannu syniad ar gyfer y dyfodol 
Gallwch ychwanegu cymaint o sylwadau ag yr hoffech ar draws Rhos, Ponciau, Pant a Johnstown.

Bydd pob sylw’n helpu i lunio’r blaenoriaethau yn y Cynllun Creu Lleoedd.