Rhowch eich Barn ar Gynllun Creu Lleoedd Drafft
Ers canol 2025, mae Owen Davies Consulting wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Cymuned Rhosllannerchrugog a rhanddeiliaid lleol i ddatblygu Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer y pentref.
Mae’r Cynllun yn amlinellu phrosiectau i’w blaenoriaethu er mwyn helpu i ddenu buddsoddiad a gwelliannau i Rhosllannerchrugog dros y 5-10 mlynedd nesaf.
Mae’r Cynllun drafft yn cynnwys pedwar amcan, gyda chynigion penodol i’w hystyried gan y gymuned o dan bob un o’r amcanion hyn:
- Adfywio Stryt y Farchnad
- Dathlu a chysylltu asedau diwylliannol, cymraeg a chymunedol
- Gwella symudiad, mynediad, parcio ac arwyddion
- Cryfhau capasiti’r gymuned
Mae arnom nawr eisiau clywed eich barn ar y cynigion hyn. Mae eich gwybodaeth leol a’ch ymateb yn hanfodol er mwyn cael y Cynllun hwn yn iawn.
Dyddiad cau: Llun 30 Mawrth 2026
Sut alla’ i roi sylwadau?
Wrth ddefnyddio’r dolenni isod, byddwch yn gallu:
- Gweld y Cynllun drafft
- Gadael sylwadau ar gynigion penodol wrth ddefnyddio’r map rhyngweithiol
- Rhannu eich syniadau cyffredinol trwy ein ffurflen adborth
Gallwch hefyd weld y cynigion a chyfarfod y tîm yn ein sesiwn galw heibio yng nghyntedd y Stiwt ddydd Iau 19 Mawrth (2pm-7pm).
Bydd copïau caled o’r Cynllun ar gael i’w hadolygu o ddydd Iau 19 Mawrth yn Llyfrgell y Rhos, swyddfa Cyngor Cymuned y Rhos, ac yng nghyntedd y Stiwt (yn ystod oriau agor arferol pob un).
Bydd yr ymgynghoriad yn parhau tan ddydd Llun 30 Mawrth 2026. Bydd eich ymateb yn cael ei adrodd i Gyngor Cymuned Rhosllannerchrugog, a fydd yn ei ddefnyddio i benderfynu ar fersiwn derfynol y Cynllun. Bydd y Cynllun terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2026 a bydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ceisiadau am arian ar gyfer prosiectau i wella’r pentref.
Caiff y prosiect hwn ei arwain gan Gyngor Cymuned Rhosllannerchrugog, gyda chefnogaeth Owen Davies Consulting.
Eich pentref chi yw hwn. Eich cynllun chi yw hwn. Ymunwch yn y gweithgarwch.
Cwestiynau?
Cysylltwch ag Adam Greenwood ar Owen Davies Consulting gan ddefnyddio adam@owendaviesconsulting.co.uk