Neidio i'r cynnwys

Llunio Dyfodol y Rhos

Rhowch eich Barn ar Gynllun Creu Lleoedd Drafft

Ers canol 2025, mae Owen Davies Consulting wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Cymuned Rhosllannerchrugog a rhanddeiliaid lleol i ddatblygu Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer y pentref.

Mae’r Cynllun yn amlinellu phrosiectau i’w blaenoriaethu er mwyn helpu i ddenu buddsoddiad a gwelliannau i Rhosllannerchrugog dros y 5-10 mlynedd nesaf.

Mae’r Cynllun drafft yn cynnwys pedwar amcan, gyda chynigion penodol i’w hystyried gan y gymuned o dan bob un o’r amcanion hyn:

  1. Adfywio Stryt y Farchnad
  2. Dathlu a chysylltu asedau diwylliannol, cymraeg a chymunedol
  3. Gwella symudiad, mynediad, parcio ac arwyddion
  4. Cryfhau capasiti’r gymuned

Mae arnom nawr eisiau clywed eich barn ar y cynigion hyn. Mae eich gwybodaeth leol a’ch ymateb yn hanfodol er mwyn cael y Cynllun hwn yn iawn.

Dyddiad cau: Llun 30 Mawrth 2026

Sut alla’ i roi sylwadau?

Wrth ddefnyddio’r dolenni isod, byddwch yn gallu:

  • Gweld y Cynllun drafft
  • Gadael sylwadau ar gynigion penodol wrth ddefnyddio’r map rhyngweithiol
  • Rhannu eich syniadau cyffredinol trwy ein ffurflen adborth

Gallwch hefyd weld y cynigion a chyfarfod y tîm yn ein sesiwn galw heibio yng nghyntedd y Stiwt ddydd Iau 19 Mawrth (2pm-7pm).

Bydd copïau caled o’r Cynllun ar gael i’w hadolygu o ddydd Iau 19 Mawrth yn Llyfrgell y Rhos, swyddfa Cyngor Cymuned y Rhos, ac yng nghyntedd y Stiwt (yn ystod oriau agor arferol pob un).

Bydd yr ymgynghoriad yn parhau tan ddydd Llun 30 Mawrth 2026. Bydd eich ymateb yn cael ei adrodd i Gyngor Cymuned Rhosllannerchrugog, a fydd yn ei ddefnyddio i benderfynu ar fersiwn derfynol y Cynllun. Bydd y Cynllun terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2026 a bydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ceisiadau am arian ar gyfer prosiectau i wella’r pentref.

Caiff y prosiect hwn ei arwain gan Gyngor Cymuned Rhosllannerchrugog, gyda chefnogaeth Owen Davies Consulting.

Eich pentref chi yw hwn. Eich cynllun chi yw hwn. Ymunwch yn y gweithgarwch.

Cwestiynau?

Cysylltwch ag Adam Greenwood ar Owen Davies Consulting gan ddefnyddio adam@owendaviesconsulting.co.uk

Choose an option

Timeline

Ymchwil cefndir, canfod yr ystyriaethau a’r syniadau allweddol

Haf 2025

Cyd-drafod a llunio gweledigaeth gyda rhanddeiliaid a’r gymuned

Hydref 2025

Datblygu Cynllun Creu Lleoedd drafft

Tachwedd 2025

Ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun drafft

Mawrth 2026

Cynllun Creu Lleoedd terfynol

Ebrill 2026